Trosolwg y Fframset
Mae amgylchedd Blackboard Learn yn cynnwys ffrâm bennawd gyda delweddau a botymau sydd wedi’u haddasu gan y sefydliad a thabiau sy’n llywio i wahanol feysydd yn Blackboard Learn. Bydd clicio tab yn agor y maes hwnnw yn y ffrâm gynnwys. Gellir cael mynediad at dudalennau gwe sydd â chynnwys, nodweddion, swyddogaethau ac offer penodol o feysydd y tabiau.
Blackboard Learn: Pennyn
Mae’r Blackboard Learn: Pennyn yn cynnwys delwedd sefydliad y gellir ei haddasu a botymau llywio sy’n galluogi’r defnyddiwr i gael mynediad at hafan y sefydliad, help Blackboard Learn ac allgofnodi o Blackboard Learn. Mae hefyd yn cynnwys tabiau sy’n llywio i wahanol feysydd yn Blackboard Learn.
Cynnwys
Mae Cynnwys bob amser yn cynnwys un o’r tudalennau canlynol:
Maes tab
Y maes sy’n ymddagnos yn y ffrâm gynnwys pan fyddwch yn clicio tab. Mae meysydd tab yn cynnwys gwybodaeth eang sy’n galluogi’r defnyddiwr i gael mynediad at dudalennau gwe sydd â chynnwys a nodweddion penodol.
Tudalen we
Mae tudalen we yn ymddangos yn y ffrâm gynnwys pan eir iddi trwy un o’r offerynnau llywio sy’n cael eu disgrifio isod. Mae gan dudalennau gwe gynnwys neu nodweddion penodol ac maent yn deillio o feysydd tab.
Help
Gellir dod o hyd i ddogfennau cymorth sy’n esbonio’r fframset hon yn http://www.blackboard.com/docs/documentation.htm?DocID=191003@X@user.locale@X@.